John OwenROBERTSDymuna Margaret, Medwyn ac Alun, a theulu'r diweddar John Owen Roberts, ddatgan eu diolch cywiraf am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli gwr, tad, taid a hen-daid annwyl iawn. Diolch i'r Parchedig Ddoctor Huw John Huws am ei gymorth a gwasanaeth, i Bryn a Linda (Jones Brothers, Benllech) am y trefniadau urddasol i'r angladd, ac i bawb am eu rhoddion at Hosbis yn y Cartref. Mae diolch arbennig iawn i staff Meddygfa Victoria, Caergybi a'r holl ofalwyr a nyrsys a wasanaethodd John mewn dull mor broffesiynol a charedig yn ystod ei waeledd byr.
Keep me informed of updates